Cyflwyniad
Rydym eisoes wedi cyflwyno'r model RGB i godio lliwiau ar gyfrifiadur. Yn y gweithgaredd hwnnw dywedais:

“Gallwn naill ai gynrychioli lliw mewn gwerthoedd o Goch, Gwyrdd a Glas (a elwir yn lliwiau RGB), neu'r pellter a deithiwyd ar hyd enfys o liw.“
Nawr byddwn yn canolbwyntio ar godio lliwiau drwy Arlliw, Dirlawnder a Disgleirdeb (Hue, Saturation and Brightness - HSB).
Pam ffordd arall i godio lliwiau?
Un ateb syml yw weithiau, mae un ffordd yn well na'r llall. Mewn rhai sefyllfaoedd efallai y bydd RGB yn haws i raglennydd ei ddefnyddio, ond mewn sefyllfaoedd eraill efallai y byddai'n well defnyddio'r model HSB, o'i gymharu â'r RGB neu eraill. O ganlyniad, mae'n dda deall gwahanol ddulliau codio.
Tip Defnyddiol
RGB = coch, gwyrdd, glas.
HSB - arlliw, dirlawnder a disgleirdeb.
Mewn gwirionedd, mae sawl ffordd o roi lliwiau ar gyfrifiadur. Yn ôl yn nyddiau cynnar cyfrifiaduron, yn y 1960au a'r 1970au, roedd arloeswyr cyfrifiadurol eisiau ffordd o gofnodi ac ailgynhyrchu lliw yn gyson. Roeddynt angen ffyrdd i godio lliw fel y gellid ei arddangos ar sgrin cyfrifiadur, ei drosglwyddo dros donnau awyr, ac yn y blaen, mewn ffordd gyson, hwylus a chywir. Gelwir HSB hefyd yn fodel Arlliw, Dirlawnder a Gwerth (Hue, Saturation and Value - HSV) ac fe'i dyfeisiwyd yn 1978 gan Alvy Ray Smith.
Codio yw ffordd arall o ddweud "gadewch i ni newid y ffenomen yn ffordd y gallwn ei storio a'i drin ar gyfrifiadur". O ganlyniad, mae angen newid lliwiau i rifau a llythrennau. Ar gyfrifiadur, gennym lawer o ddulliau i storio gwerthoedd: gallwn ddefnyddio gwerthoedd pwynt anwadal, canrannau (gwerthoedd yn amrywio o 0 i 100), neu werthoedd rhwng 0 ac 1, hyd yn oed cymysgedd o lythrennau a rhifau. Yn RGB rydym yn storio lliw yn ôl gwerthoedd (rhwng 0 a 255) ar gyfer pob un o'r lliwiau coch, gwyrdd a glas (e.e., RGB (125, 255, 25).
Mae yna ffyrdd gwahanol o godio lliwiau, ond hefyd ffyrdd gwahanol o ystyried lliwiau. Er enghraifft, gallwn ddeall lliw o gymysgu goleuadau, meddwl am donfeddi golau, sut mae paent yn cael ei gymysgu, sut rydym yn canfod lliwiau, neu hyd yn oed enwi lliwiau unigol. O ganlyniad, mae gwahanol ffyrdd o gynrychioli lliw. Nid yw'r un o'r ffordd o "feddwl am liw" yn well na'r llall; ond efallai eu bod yn well at ddibenion penodol.
Mae gwyddonwyr, fodd bynnag, angen ffyrdd o fynegi eu syniadau, a chreu modelau lliw sy'n disgrifio eu syniadau yn haniaethol, ac yn diffinio gofodau lliw i gyflwyno eu syniadau.
Modelau lliw yw cynrychioliadau haniaethol o liw. Fel arfer, maen nhw'n cynnwys disgrifiad manwl a hafaliad mathemategol i fynegi'r cysyniad o liw, a llun o'r model i'n helpu ni i ddychmygu'r syniad.
Mae'r gofod lliw yn caniatáu i ni ddeall un model o'i gymharu â'r llall. Efallai y gallwn ddod o hyd i ffordd o fapio'r model lliw yn system gydgysylltu dau ddimensiwn, neu ddarlun tri dimensiwn. Mae'r mannau hyn nid yn unig yn ein helpu i ddychmygu'r model lliw, ond yn ein helpu i gymharu un model yn erbyn y llall.
Throughout history many colour models have been invented. But they have been done for one purpose: to help people understand colour better. Much of our understanding of colour begins with Isaac Newton (1642-1726). Newton used a prism to split light into its colour spectrum. He named the colours red, orange, yellow, green, blue, indigo and violet (gweler lliwiau ac enfysau).
Ar gyfer y model HSB, rydym yn rhoi coch ar y brig, ac mae'r sbectrwm lliwiau o amgylch y cylch. Gadewch i ni nawr fynd drwy bob un o'r rhannau: Arlliw, Dirlawnder a Disgleirdeb.
Arlliw
Yn y model HSB, mae arlliw yn cael ei dynodi gan ongl o amgylch y cylch. Mae coch wedi'i osod ar y brig ar 0 °, melyn-gwyrdd ar 90 °, gwyrddlas ar 180 °, a phorffor ar 270 °. Drwy newid yr ongl, gallwn ddewis arlliw penodol.
Tip Defnyddiol
Ceisiwch gofio rhai o'r onglau. Coch ar 0 °, melyn ar 60 °, gwyrdd ar 120 °, gwyrddlas ar 180 °, a glas ar 240 °.

Pan fyddwch yn defnyddio gwahanol raglenni cyfrifiadurol (fel golygydd lluniau) efallai y bydd angen i chi ddewis lliwiau drwy dewisydd lliw. Mewn rhai dewisyddion lliw, mae'r olwyn yn cael ei gwastatau'n hirsgwar o liwiau. Ond mae'r arlliwiau yn dal i gael gwerthoedd rhwng 0 a 360.

Os edrychwn ymhellach, gallwn weld egwyddorion cymysgu golau ar waith! Mae'r arlliwiau cynradd o goch, gwyrdd a glas wedi'u gwahanu'n gyfartal o amgylch y cylch: coch ar 0 °, gwyrdd ar 120 ° a glas ar 240 °.

Mae'r arlliwiau eilaidd, gwyrddlas, magenta a melyn, yn cael eu gweld rhwng yr arlliwiau cynradd. Pan fyddwn yn cymysgu golau coch a gwyrdd rydym yn cael golau melyn, glas a gwyrdd yn cynhyrchu gwyrddlas, a golau coch a glas yn cynhyrchu magenta.
Tip Defnyddiol
Ceisiwch gofio safleoedd yr olwynion lliw ar gyfer y lliwiau cynradd ac eilaidd.

Dirlawnder
Dirlawnder yw dwyster y lliw: cyfoeth y lliw. Ar sero nid oes lliw a dangosir gwyn, ac ar 100 y mae arlliw pur. Beth am ddewis gwerth arlliw o 240° i gael lliw dwfn-glas, gallwn wedyn newid y lefelau dirlawnder 10% gan ddechrau ar 0%.

Gallwn wneud yr un peth gyda gwerth oren. Gan ddechrau heb unrhyw liw a symud tuag at yr arlliw lliw llawn.

Disgleirdeb (neu werth)
Disgleirdeb yw disgleirdeb y lliw! Os nad yw'r lliw yn llachar yna mae gennym y fersiwn tywyllaf o'r lliw hwnnw (bydd yn edrych yn ddu). A phan fydd gennym y lliw disgleiriaf rydym yn cael yr arlliw ei hun ar ei ffurf buraf.


Model gofod HSB (HSV)
Gallwn feddwl am y model HSB mewn delweddu tri dimensiwn. Mewn 3D, mae'r model lliw yn edrych fel silindr, gyda'r lliw o gwmpas yr ochr, dirlawnder tuag at ganol y silindr a disgleirdeb o'r top i'r gwaelod.

Mae'r model yma yn ein helpu i ddeall sut y gallwn drin y gwerthoedd.
- Drwy gynyddu'r gwerth arlliw, rydyn ni'n cylchdroi'n glocwedd o amgylch y cylch. Os ydyn ni'n lleihau'r arlliw, rydyn ni'n cylchdroi'n wrthglocwedd.
- Os byddwn yn lleihau dirlawnder, rydym yn symud i ganol y silindr. Mae hyn yn arwain at fersiwn llai dirlawn o'r lliw hwnnw.
- I leihau'r disgleirdeb (gan wneud y lliw yn dywyll) rydym yn symud i lawr y silindr. Symud tuag i fyny i gynyddu disgleirdeb.
HSB a rhyngwynebau lliw (dewisydd lliw)
Er bod y silindr yn ffordd ddefnyddiol o ddychmygu'r model lliw HSB, yn ymarferol nid yw'n hawdd iawn i drin lliw mewn 3D. Felly, mae dewisyddion lliw yn defnyddio llithryddion a botymau i reoli'r lliw.
Defnyddio tri llithrydd i reoli HSB.
Each slider therefore represents one of Hue, Saturation and Brightness (or value).


Plotio mewn dau ddimensiwn
Dull arall yw plotio dau ddimensiwn o'r lliw, a chynrychioli'r trydydd gyda llithrydd. Felly, er enghraifft, gallwn blotio dirlawnder yn erbyn disgleirdeb, a chael yr arlliw lliw ar lithrydd. Fel hyn gallwch ddewis yr "arlliw cyfredol". Yna caiff yr holl gysgodion eu mapio ar grid 2d, gyda dirlawnder ar yr echelin x a disgleirdeb ar echelin y. Mae gwyn wedi ei blotio ar yr ochr chwith uchaf a du ar hyd y gwaelod.

Gweithgareddau
Yn y gweithgareddau yma byddwn yn defnyddio'r dewisydd lliw Google, a'r prif nod yw i chi ymarfer defnyddio'r model HSB.
Cam 1. Llwytho'r Dewisydd Lliw Google
I gael mynediad at yr offeryn hwn, ewch i ffenestr porwr, ac yn y porwr llwythwch bar chwilio, fel y bar chwilio Google, a theipiwch "google dewisydd lliw". Os ydych chi'n defnyddio'r peiriant chwilio Google, byddai "dewisydd lliw" yn ddigon da. Dylai hyn lwytho sawl canlyniad ar liw, a darlunio'r dewisydd lliw ar y brig. Gadewch i ni ddim ond canolbwyntio ar y rhyngwyneb dewisydd lliw.

Nodyn. Mae Dewisydd lliw Google hefyd yn dangos y gwerthoedd lliw mewn tri model lliw arall. Mae'n dangos gwerthoedd yn RGB, CYMK, HSB a hefyd gofodau lliw HSL; ond gadewch i ni ganolbwyntio ar werthoedd HSB.
Cam 2. Lleoli'r lliwiau cynradd ac eilaidd
Nawr ceisiwch ddod o hyd i'r lliwiau cynradd ac eilaidd.
- Canfod, y lliwiau cynradd: coch, gwyrdd a glas. Drwy symud y cylch, neu newid y gwerthoedd yn y meysydd testun, dewch o hyd i'r prif liwiau (coch, gwyrdd a glas). Bydd angen i chi osod y disgleirdeb a'r dirlawnder i'r uchafswm.
- Canfod y lliwiau eilaidd: melyn, gwyrddlas a magenta. Ceisiwch gael yr union werthoedd o 60°, 180° a 300° yn y drefn honno.

Cam 3. Ymchwilio i frown
Dewch o hyd i frown lliw ar 33°, a gosod dirlawnder a disgleirdeb i 100%. Y syniad yw ymchwilio i sut mae'r lliwiau'n newid pan fyddwch chi'n newid dirlawnder a disgleirdeb.
Y dasg yw lleihau'r dirlawnder o werth 40 ac yna'r disgleirdeb o werth 40, ac yna gwneud grid o liwiau.

Edrych ymhellach
Beth am wneud eich ymchwil eich hun ar liw.
- Efallai cymerwch olwg ar wahanol fodelau lliw a lle cânt eu defnyddio.
- Edrychwch ar dewisyddion lliwiau, a gweld sut maen nhw'n cael eu defnyddio.
- Ceisiwch gofio rhai o'r gwerthoedd lliw a'u gwerthoedd yn y model lliw HSB.