Gwybodaeth

Rydym wedi llunio cyfres o gwestiynau a allai fod gennych am ein safle.

Pa radd yw ein gweithgareddau?

Rydym yn trefnu'r gweithgareddau yn ôl lefelau, yn hytrach na gradd neu oedran, oherwydd bydd gan fyfyrwyr lefelau gwahanol o brofiad ar bwnc. Ond rydym wedi ceisio cadw'r iaith yn ddigon syml i blentyn 14 oed i'w deall.

Beth yw ein lefelau?

Caiff y gwersi eu categoreiddio fel dechreuwr, canolradd neu uwch. Cofiwch, efallai eich bod yn godwr uwch, ond yn gwybod llai, er enghraifft, am opteg neu liw. Felly efallai y bydd angen i chi ddechrau ar lefel wahanol mewn pwnc gwahanol.

DECHREUWR. Efallai eich bod yn newydd i raglennu, mae gennym rai ymarferion dechreuwr i chi. Efallai nad ydych yn gwybod llawer am liw, yna ewch i'r tasgau i ddechreuwyr ar liw.

CANOLRADD. Felly nid ydych yn ddechreuwr? Efallai eich bod wedi gwneud rhywfaint o godio o'r blaen, neu wedi dilyn rhai cyrsiau ar-lein ar liw. Felly anelwch tuag at y lefelau canolradd. Efallai eich bod yn gwybod ychydig am liw, yna ewch tuag at rai ar lefel ganolradd!

UWCH. Felly, efallai eich bod wedi gwneud rhywfaint o raglennu'n barod, ac eich bod wedi pasio'r cam canolradd. Rydych chi eisiau mwy o heriau – ewch tuag at y gweithgareddau uwch.

ARBENIGWR. Felly rydych chi'n arbenigwr!? Rydych chi'n gwybod llawer am godio a lliw. Yna efallai y gallech chi wneud yr ymarfer a rhannu gyda ni (ac eraill) sut i'w wella, ei addasu neu ei gymhwyso. Ond cofiwch; byddwch bob amser yn gadarnhaol, yn galonogol a chynorthwyol i eraill. Mae'n amser cyffrous i ddysgu – gallwn ni i gyd ddysgu.

A yw'r pynciau'n cyd-fynd â chwricwlwm penodol?

Ddim yn fwriadol. Rydym yn cyflwyno ystod eang o weithgareddau, sydd wedi eu tynnu o'n gwybodaeth ein hunain. Maen nhw'n cyd-fynd â'r pynciau rydyn ni'n eu dysgu, ac ymchwil rydyn ni'n ei pherfformio (gweler y dudalen Amdanom ni).

Fydd y gweithgareddau yn fy mharatoi ar gyfer arholiad?

Nid yw'r gweithgareddau hyn wedi'u cynllunio i fod yn baratoad ar gyfer arholiad penodol. Fodd bynnag, maent yn rhoi gweithgareddau ymarfer i chi a fydd yn datblygu eich sgiliau. Er enghraifft, gobeithio y bydd y gwersi codio yn gwella eich sgiliau codio.

Pa bynciau ydych chi'n eu cynnwys?

Mae pob un o'r gweithgareddau yn cael eu categoreiddio naill ai fel dechreuwr, canolradd neu uwch, ac rydym yn eu dosbarthu yn ôl pwnc. Felly un ffordd o lywio yw chwilio am weithgareddau yn ôl pynciau. Crynhoir y rhain isod:

cyCymraeg
en_GBEnglish (UK) cyCymraeg