Categories
Dechreuwr Lliwiau Prosiect Enfys

Enfysau a Lliwiau

Deall Enfysau, pam ein bod fel arfer yn meddwl bod ganddo 7 lliw, a gwneud troellwr lliw.

Pan fydd hi'n glawio, a'r haul yn tywynnu, efallai y gwelwn Enfys yn yr awyr. Mae'n digwydd pan fydd yr haul yn disgleirio trwy ddiferion glaw, a'r golau gwyn yn cael ei blygu wrth iddo fynd i mewn i'r diferion dŵr

Ar y ddaear, mae'r Enfys yn ymddangos fel arc, ond os byswch yn hedfan mewn awyren yna gellir ei weld fel cylch.

Mae'r lliwiau yn yr Enfys yn uno yn esmwyth o un i'r llall. Maent yn barhaus yn nhrefn y lliwiau. Ond yn draddodiadol rydyn ni'n meddwl am Enfys fel un sydd â 7 lliw unigol. Mae hyn yn ei gwneud hi'n haws cofio'r drefn, a hefyd llunio fersiwn symlach. Dyma'r saith lliw: Coch, Oren, Melyn, Gwyrdd, Glas, Indigo a Fioled. Mae'r cofrif Roy G. Biv yn ddefnyddiol gan ei fod hefyd yn amlygu'r tri prif liw Coch (R - Red), Gwyrdd (G - Green), Glas (B - Blue). Mae gwerthoedd ar gyfer R, G a B, yn aml yn cael eu defnyddio i godio lliwiau ar gyfrifiadur.

Double rainbow (Photograph by Prof J.C.Roberts)

Pan does dim ond un Enfys (ac ar arc gyntaf enfys ddwbl) coch yw rhan allanol o'r arc, gyda fioled ar y tu mewn. Fodd bynnag, pan ellir gweld ail arc, mae trefn lliwiau'r ail arc hwnnw yn ymddangos gyda choch ar ran fewnol yr arc.

Pam saith lliw?

Tip Defnyddiol Cofiwch drefn yr Enfys drwy odl: Roy G. Biv, neu Richard o York a Roddodd Frwydr Yn Ofer, neu Darllenwch Allan Eich Llyfr Da Mewn Adnod.

Priodolir y crynodeb o liwiau enfys, i saith lliw gwahanol, i Aristotle (384 – 322 BC) ond mae'n bosibl iddo gael ei ddatblygu gan olynwyr Aristotle Theophrastus neu Strato. Creodd Newton gylch lliw, i ddisgrifio sut y gellir cymysgu goleuadau lliw gyda'i gilydd. Yn wreiddiol, dim ond pum lliw a ddefnyddiodd Newton, ond ychwanegodd oren ac yna indigo i gyd-fynd â'r saith nodyn mewn graddfa fawr, mewn cerddoriaeth. Ond mewn gwirionedd, mae symleiddio enfys i set o 5 neu hyd yn oed 7 cam braidd yn fympwyol. Yn ogystal, enwodd Newton ei liwiau yn wahanol i'r ffordd y byddem ni'n eu henwi yn awr. Yr hyn a alwodd yn "Indigo" y byddem yn awr yn ystyried i fod yn "Glas", a'r hyn a alwodd yn "Glas", byddem yn dweud ei fod yn "Gwyrddlas".

7 lliwiau'r enfys a lliw di-dor.

Cymysgu paent yn erbyn cymysgu goleuadau

Mae gwahaniaeth rhwng cymysgu goleuadau, a chymysgu paent. Cymysgu lliw ychwanegyn, yw'r term a ddefnyddir wrth gymysgu goleuadau, tra bod yr ymadrodd cymysgu tynnol yn cael ei ddefnyddio wrth gymysgu paent. Mae'n debyg bod myfyrwyr yn dysgu mwy am gymysgu paent, o gymharu â dysgu sut i gymysgu golau! Er enghraifft, rwy'n siŵr eich bod yn gwybod pan fydd paent melyn yn cael ei gymysgu â glas Rydym yn cael paent gwyrdd. Ond mae cymysgu goleuadau yn wahanol. Ac ar gyfrifiadur mae angen i ni feddwl o ran cymysgu golau. Rydym yn delio â chymysgu lliw tynnol ar gyfrifiadur.

Simulation of Subtractive Colour Mixing
Cymysgu lliwiau tynnol
Simulated (idealised) additive colour mixing
Cymysgu lliw ychwanegyn

Lliwiau Arlliw

Mae'n debyg eich bod wedi disgrifio car fel coch dwfn, neu efallai coch golau. Gellir disgrifio cochion eraill fel coch llachar, neu gall lliw arall ymddangos fel coch ysgafn, neu efallai pinc. Rydym yn disgrifio'r lliw arlliw. Ym mhob un o'n henghreifftiau, mae ein lliw sylfaenol (creiddiol) yn goch.

Tip Defnyddiol Pan fyddwch eisiau ddeall arlliw gwrthrych, gofynnwch i'ch hun "beth yw'r prif liw?" Gall fod yn goch, melyn, gwyrdd neu glas.

Mewn iaith rydym yn mynegi gwahanol liwiau drwy ychwanegu gwahanol ansoddeiriau. Glas golau, glas tywyll, glas pastel, glas llachar, ac ati.

Gallwn newid y ysgafnder o'r arlliw, trwy gymysgu mewn mwy o'r lliw du, neu fwy o wyn. Gelwir yr un cysyniad hwn yn gwerth, neu tôn.

  • I wneud arlliw ysgafnach, mae angen i chi gymysgu mewn mwy o wyn. Byddai hyn yn lleihau tywyllwch y lliw. Gelwir hyn hefyd yn lliw gwerth uchel.
  • I wneud arlliw tywyllach, mae angen i chi gymysgu mewn mwy o ddu. Gelwir hyn hefyd yn lliw gwerth isel.

Yn olaf, mewn graffeg a delweddu, mae'n gyffredin siarad am y dirlawnder o liw. Gallwn feddwl am ddirlawnder fel disgleirdeb neu ddwyster y lliwiau mewn golygfa.

Gweithgaredd

I greu'r troellwr Enfys byddwch angen:

  • Cardfwrdd plaen (neu gerdyn solet gwyn)
  • Pensil
  • Pinnau ffelt lliw (un ar gyfer pob lliw o'r enfys!)
  • Llinyn
  • Siswrn
  • Pren Mesur
  • Cwmpawd, neu rywbeth crwn fel plât
  • (Dewisol) Onglydd, i gyfrifo'r onglau
Rainbow spinner, drawing the segments.

Dilynwch y cyfarwyddiadau canlynol i wneud eich troellwr enfys.

  1. Gosodwch y cwmpawd gyda radiws o 5cm. Neu defnyddiwch blât gyda diamedr o thua 10cm. Lluniwch gylch ar y cardfwrdd, a thorrwch y cardfwrdd allan, i gael disg cylchol.
  2. Rhannwch y cylch yn 7 rhan gyfartal. Marciwch y saith segment gan ddefnyddio pensil i roi arweiniad i chi ar yr hyn y byddwch yn ei liwio. Os oes gennych onglydd yna gallwch ei ddefnyddio i farcio'r segmentau; byddai tua 51° ar gyfer pob segment (h.y., 360/7 = 51.4).
  3. Lliwiwch bob segment gyda gwahanol liwiau, un ar gyfer pob lliw o'r Enfys.
  4. Gwnewch ddau dwll bach (tua 1 cm ar wahân) sydd naill ochr i ganol y ddisg. Rhowch y llinyn drwy'r tyllau hyn, fel eu bod yn creu un ddolen fawr gyda'r troellwr yn y canol.

Rainbow spinner, gif animation

I ddefnyddio'r troellwr: Daliwch un pen y llinyn ym mhob llaw. Yn araf trowch eich dwylo mewn symudiad cylchol (yn debyg os byswch yn dal dwy wisg, un ym mhob llaw). Bydd hyn yn dechrau troelli'r ddisg a bydd y llinyn yn cael ei droi i'r un cyfeiriad. Unwaith y bydd y llinyn wedi dirdro, tynnwch y llinyn yn ysgafn gyda'r ddwy law. Dylai ddechrau troi. Dylai gyflymu ac yna arafu. Rhyddhau'r gwasgedd a bydd yn dechrau arafu, nawr yw'r amser i dynnu eto. Llawer tebyg os byswch yn chwarae'r acordion.

Nawr rydych chi'n gwybod mwy am liwiau ac enfysau.

By Jonathan

Mae Jonathan yn gyson yn dylunio pethau, yn addysgu pobl, ac yn dysgu drwy'r amser. Mae'n athro delweddu yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig, Prifysgol Bangor, y DU. Mae'n arwain y grwpiau Delweddu, Data, Modelu a Graffeg (VDMG), yn arwain prosiect enfys ac mae'n un o awduron y llyfr Springer "Five Design-sheets ", dull dylunio braslunio.

One reply on “Rainbows and Colours”

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.

cyCymraeg
en_GBEnglish (UK) cyCymraeg