Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae'r golau o bwyntydd Laser yn mynd o'ch bys i ddot ar y wal?
Mae'r golau yn anweledig yn tydi? Er na allwch ei weld, nid yw hynny'n golygu nad yw yno...

Bydd y gweithgaredd hwn yn rhoi'r cyfle i chi wneud golau laser ‘anweledig’ yn ‘weladwy’, a hefyd yn dangos i chi sut i blygu’r pelydryn Laser gan ddefnyddio eitemau cartref syml yn unig, yn cynnwys; gwydr peint crwm (neu unrhyw wydr crwm arall), a hylif golchi llestri!
Gweler y fideo isod:
Y Gweithgaredd
Beth fyddwch ei hangen:
- Pwyntydd Laser (tegan Laser ar gyfer cath, er enghraifft);
- Gwydr Peint (crwm yn ddelfrydol - mae hyn er mwyn i chi allu plygu'r pelydryn ar gromlin y gwydr);
- Hylif Golchi Llestri
- Tröydd (llwy new welltyn).
Beth rydych angen ei wneud:
- Llenwch eich gwydr peint i bron i'r brig â dŵr;
- Ychwanegwch lwy de o hylif golchi llestri i’r dŵr, a throellwch - mae hyn er mwyn gwneud y dŵr yn ‘gymylog’, ond cymerwch ofal, nid ydych chi eisiau unrhyw swigod!
- Er mwyn i chi allu gweld y pelydryn pan fyddwch chi'n ei ddisgleirio i'r dŵr, bydd angen ystafell dywyll iawn arnoch chi, felly diffoddwch y goleuadau, a chaewch eich bleindiau;
- Disgleiriwch y pelydryn Laser yn syth i lawr i'r dŵr o ben y gwydr. Os na allwch weld y trawst yna ychwanegwch ychydig yn fwy o hylif golchi llestri;
- Nawr, disgleiriwch eich laser tuag at gromlin y gwydr (yn debyg i'r ffigur) - a allwch chi weld pelydryn y laser yn plygu?
- (Dewisol) - symudwch bwyntydd y Laser o gwmpas i weld os gallwch newid ongl y plygiad.
Ffaith Ddiddorol...
Oeddech chi'n gwybod bod LASER yn acronym ar gyfer:
Light
Amplification by
Stimulated
Emission of
Radiation