Yn y gweithgaredd hwn, byddwch yn creu enfys mewn cod gan ddefnyddio llyfr-braslunio ac iaith "Prosesu".

Mae Jonathan yn gyson yn dylunio pethau, yn addysgu pobl, ac yn dysgu drwy'r amser. Mae'n athro delweddu yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig, Prifysgol Bangor, y DU. Mae'n arwain y grwpiau Delweddu, Data, Modelu a Graffeg (VDMG), yn arwain prosiect enfys ac mae'n un o awduron y llyfr Springer "Five Design-sheets ", dull dylunio braslunio.
Yn y gweithgaredd hwn, byddwch yn creu enfys mewn cod gan ddefnyddio llyfr-braslunio ac iaith "Prosesu".
Meddyliwch am eich rhaglen cyn i chi godio. Mae'r gweithgaredd hwn yn mynd drwy'r bum cam o'r Daflen Meddwl Gritigol.
Mae'r gweithgaredd hwn yn eich cychwyn gyda Phrosesu. Lawrlwythwch, rhedwch a lluniwch rhai llinellau lliw. Mae'r iaith rhaglennu gyfrifiadurol Prosesu, yn ffordd wych o ddechrau codio. Rydych chi'n cael canlyniad gweledol cyflym o ychydig o linellau o god.
Defnyddir gwerthoedd lliwiau coch, gwyrdd a glas i godio lliwiau ar gyfrifiadur. Dysgwch sut i greu gwahanol liwiau o werthoedd gwahanol RGB.
Deall Enfysau, pam ein bod fel arfer yn meddwl bod ganddo 7 lliw, a gwneud troellwr lliw.